Actau 17:24-27
Actau 17:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau'n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw. Ni wasanaethir ef chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy'n rhoi i bawb fywyd ac anadl a'r cwbl oll. Gwnaeth ef hefyd o un dyn yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod. Yr oeddent i geisio Duw, yn y gobaith y gallent rywfodd ymbalfalu amdano a'i ddarganfod; ac eto nid yw ef nepell oddi wrth yr un ohonom.
Actau 17:24-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Fe ydy’r Duw wnaeth greu’r byd a phopeth sydd ynddo. Mae’n Arglwydd ar y nefoedd a’r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi’u hadeiladu gan bobl, a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo – does dim byd sydd arno’i angen! Y Duw yma sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb. Fe ydy’r Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy’n byw drwy’r byd i gyd. Mae’n penderfynu am faint fydd y cenhedloedd yna’n bodoli, a lle’n union mae eu ffiniau daearyddol. Gwnaeth hyn i gyd er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd iddo, ac estyn allan a’i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.
Actau 17:24-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom