Actau 16:25-30
Actau 16:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt. Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb. Deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau'r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio fod ei garcharorion wedi dianc. Ond gwaeddodd Paul yn uchel, “Paid â gwneud dim niwed i ti dy hun; yr ydym yma i gyd.” Galwodd ef am oleuadau, a rhuthrodd i mewn; daeth cryndod arno, a syrthiodd o flaen Paul a Silas. Yna daeth â hwy allan a dweud, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?”
Actau 16:25-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a’r carcharorion a’u clywsant hwy. Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau’r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion. A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau’r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o’r carcharorion ymaith. Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll. Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas, Ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?