Actau 15:10-11
Actau 15:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn? Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd.”
Rhanna
Darllen Actau 15Actau 15:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly pam dych chi’n amau beth mae Duw wedi’i wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma’n cario beichiau roedden ni a’n hynafiaid yn methu’u cario? Dŷn ni’n credu’n hollol groes! – mai dim ond ffafr a haelioni’r Arglwydd Iesu sy’n ein hachub ni fel hwythau!”
Rhanna
Darllen Actau 15Actau 15:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau’r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn? Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau.
Rhanna
Darllen Actau 15