Actau 14:8-18
Actau 14:8-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn Lystra dyma nhw’n dod ar draws rhyw ddyn oedd ag anabledd yn ei draed; roedd wedi’i eni felly ac erioed wedi gallu cerdded. Roedd yn gwrando ar Paul yn siarad. Roedd Paul yn edrych arno, a gwelodd fod gan y dyn ffydd y gallai gael ei iacháu. Meddai wrtho yng nghlyw pawb, “Saf ar dy draed!”, a dyma’r dyn yn neidio ar ei draed yn y fan a’r lle ac yn dechrau cerdded. Pan welodd y dyrfa beth wnaeth Paul, dyma nhw’n dechrau gweiddi yn iaith Lycaonia, “Mae’r duwiau wedi dod i lawr aton ni fel dynion!” Dyma nhw’n penderfynu mai y duw Zews oedd Barnabas, ac mai Hermes oedd Paul (gan mai fe oedd yn gwneud y siarad). Dyma offeiriad o deml Zews, oedd ychydig y tu allan i’r ddinas, yn dod â theirw a thorchau o flodau at giatiau’r ddinas, gyda’r bwriad o gyflwyno aberthau iddyn nhw. Ond pan ddeallodd y ddau beth oedd yn digwydd, dyma nhw’n rhwygo’u dillad ac yn rhuthro allan i ganol y dyrfa, yn gweiddi: “Na! Na! Ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni! Dŷn ni wedi dod â newyddion da i chi! Rhaid i chi droi cefn ar y pethau diwerth yma, a chredu yn y Duw byw. Dyma’r Duw wnaeth greu popeth – yr awyr a’r ddaear a’r môr a’r cwbl sydd ynddyn nhw! Yn y gorffennol gadawodd i’r cenhedloedd fynd eu ffordd eu hunain, ond mae digonedd o dystiolaeth o’i ddaioni o’ch cwmpas chi: mae’n rhoi glaw ac yn gwneud i gnydau dyfu yn eu tymor – i chi gael digon o fwyd, ac i’ch bywydau fod yn llawn o lawenydd.” Ond cafodd Paul a Barnabas drafferth ofnadwy i rwystro’r dyrfa rhag aberthu iddyn nhw hyd yn oed ar ôl dweud hyn i gyd.
Actau 14:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn â'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded. Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu, a dywedodd â llais uchel, “Saf yn unionsyth ar dy draed.” Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded. Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: “Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion”; a galwasant Barnabas yn Zeus, a Paul yn Hermes, gan mai ef oedd y siaradwr blaenaf. Yr oedd teml Zeus y tu allan i'r ddinas, a daeth yr offeiriad â theirw a thorchau at y pyrth gan fwriadu offrymu aberth gyda'r tyrfaoedd. Pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Paul, am hyn, rhwygasant eu dillad, a neidio allan i blith y dyrfa dan weiddi, “Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian â chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddynt. Yn yr oesoedd a fu, goddefodd ef i'r holl genhedloedd rodio yn eu ffyrdd eu hunain. Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd.” Ond er dweud hyn, o'r braidd yr ataliasant y tyrfaoedd rhag offrymu aberth iddynt.
Actau 14:8-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed. Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd, A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd. A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom. A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf. Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i’r pyrth, ac a fynasai gyda’r bobl aberthu. A’r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain, A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt: Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain. Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd. Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.