Actau 14:1-7
Actau 14:1-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Digwyddodd yr un peth yn Iconium. Aeth Paul a Barnabas i’r synagog Iddewig, a siarad mor dda nes bod nifer fawr o Iddewon a phobl o genhedloedd eraill wedi credu. Ond dyma’r Iddewon oedd yn gwrthod credu yn codi twrw ymhlith pobl y cenhedloedd a’u troi nhw’n hollol yn erbyn y brodyr. Arhosodd Paul a Barnabas yno am amser hir, yn dal ati i siarad yn gwbl ddi-ofn am yr Arglwydd. Ac roedd yr Arglwydd yn profi fod y neges am ei ddaioni yn wir drwy roi’r gallu iddyn nhw wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos ei fod e gyda nhw. Roedd pobl y ddinas wedi’u rhannu; rhai yn ochri gyda’r Iddewon, a’r lleill o blaid yr apostolion. Dyma rai o bobl y cenhedloedd, gyda’r Iddewon a’u harweinwyr, yn cynllwynio i ymosod ar Paul a Barnabas a’u lladd drwy daflu cerrig atyn nhw. Ond clywon nhw beth oedd ar y gweill, a dianc i’r ardal o gwmpas Lystra a Derbe yn Lycaonia. A dyma nhw’n mynd ati i gyhoeddi’r newyddion da yno.
Actau 14:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn Iconium eto, aethant i mewn i synagog yr Iddewon a llefaru yn y fath fodd nes i liaws mawr o Iddewon a Groegiaid gredu. Ond dyma'r Iddewon a wrthododd gredu yn cyffroi meddyliau'r Cenhedloedd, ac yn eu gwyrdroi yn erbyn y credinwyr. Felly treuliasant gryn amser yn llefaru'n hy yn yr Arglwydd, a thystiodd yntau i air ei ras trwy beri gwneud arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy. Rhannwyd pobl y ddinas; yr oedd rhai gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion. Pan wnaed cynnig gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u harweinwyr, i'w cam-drin a'u llabyddio, wedi cael achlust o'r peth, ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch, ac yno yr oeddent yn cyhoeddi'r newydd da.
Actau 14:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd. Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr. Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt. Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda’r Iddewon, a rhai gyda’r apostolion. A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd â’u llywodraethwyr, i’w hamherchi hwy, ac i’w llabyddio, Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch: Ac yno y buant yn efengylu.