Actau 1:6-9
Actau 1:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw’n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti’n mynd i ryddhau Israel a’i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?” Ateb Iesu oedd: “Duw sy’n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy’r amserlen mae Duw wedi’i threfnu. Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy’r byd i gyd.” Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i’r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o’i gwmpas a diflannodd o’u golwg.
Actau 1:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, wedi iddynt ddod ynghyd, fe ofynasant iddo, “Arglwydd, ai dyma'r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?” Dywedodd yntau wrthynt, “Nid chwi sydd i wybod amseroedd neu brydiau y mae'r Tad wedi eu gosod o fewn ei awdurdod ef ei hun. Ond fe dderbyniwch nerth wedi i'r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.” Wedi iddo ddweud hyn, a hwythau'n edrych, fe'i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o'u golwg.
Actau 1:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt-hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt.