Actau 1:4-8
Actau 1:4-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un o’r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi’i addo. Dych chi’n cofio fy mod wedi siarad am hyn o’r blaen. Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi’ch bedyddio â’r Ysbryd Glân.” Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw’n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti’n mynd i ryddhau Israel a’i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?” Ateb Iesu oedd: “Duw sy’n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy’r amserlen mae Duw wedi’i threfnu. Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy’r byd i gyd.”
Actau 1:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A thra oedd gyda hwy, gorchmynnodd iddynt beidio ag ymadael o Jerwsalem, ond disgwyl am yr hyn a addawodd y Tad. “Fe glywsoch am hyn gennyf fi,” meddai. “Oherwydd â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân ymhen ychydig ddyddiau.” Felly, wedi iddynt ddod ynghyd, fe ofynasant iddo, “Arglwydd, ai dyma'r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?” Dywedodd yntau wrthynt, “Nid chwi sydd i wybod amseroedd neu brydiau y mae'r Tad wedi eu gosod o fewn ei awdurdod ef ei hun. Ond fe dderbyniwch nerth wedi i'r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.”
Actau 1:4-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi. Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau. Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.