Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 1:12-24

Actau 1:12-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o’r ddinas. Dyma nhw’n cerdded yn ôl i Jerwsalem a mynd yn syth i’r ystafell honno i fyny’r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw’n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago. Roedden nhw’n cyfarfod yno’n gyson i weddïo gyda’i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a’i frodyr, a nifer o wragedd. Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol, a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i’w arestio. Roedd wedi bod yn un ohonon ni ac wedi gwasanaethu gyda ni!” (Prynodd Jwdas faes gyda’r tâl gafodd am y brad. Yno syrthiodd i’w farwolaeth, a byrstiodd ei gorff yn agored nes bod ei berfedd yn y golwg. Daeth pawb yn Jerwsalem i wybod am beth ddigwyddodd, a dechreuodd pobl alw y lle yn eu hiaith nhw yn Aceldama, sef ‘Maes y Gwaed’.) “Dyma mae llyfr y Salmau yn cyfeirio ato,” meddai Pedr, “ ‘Bydded ei le yn anial, heb neb yn byw yno.’ “Ac mae’n dweud hefyd, ‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’ “Felly mae’n rhaid i ni ddewis rhywun i gymryd ei le – un ohonoch chi oedd gyda ni pan oedd yr Arglwydd Iesu yma. Rhywun fuodd yno drwy’r adeg, o’r dechrau cyntaf pan gafodd ei fedyddio gan Ioan i’r diwedd pan gafodd Iesu ei gymryd i fyny i’r nefoedd. Rhaid i’r person, fel ni, fod yn dyst i’r ffaith fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw.” Dyma ddau enw yn cael eu cynnig: Joseff oedd un, sef Barsabas (sy’n cael ei alw’n Jwstus weithiau hefyd), a Mathïas oedd y llall. Felly dyma nhw’n gweddïo, “Arglwydd, rwyt ti’n nabod calon pawb. Dangos i ni pa un o’r ddau yma rwyt ti wedi’i ddewis

Actau 1:12-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dychwelsant i Jerwsalem o'r mynydd a elwir Olewydd, sydd yn agos i Jerwsalem, daith Saboth oddi yno. Wedi cyrraedd, aethant i fyny i'r oruwchystafell, lle'r oeddent yn aros: Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot a Jwdas fab Iago. Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi, ynghyd â rhai gwragedd a Mair, mam Iesu, a chyda'i frodyr. Un o'r dyddiau hynny cododd Pedr ymysg y credinwyr—yr oedd tyrfa o bobl yn yr un lle, rhyw gant ac ugain ohonynt—ac meddai, “Gyfeillion, rhaid oedd cyflawni'r Ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr un a ddangosodd y ffordd i'r rhai a ddaliodd Iesu; oherwydd fe'i cyfrifid yn un ohonom ni, a chafodd ei ran yn y weinidogaeth hon.” (Fe brynodd hwn faes â'r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi syrthio ar ei wyneb fe rwygodd yn ei ganol, a thywalltwyd ei berfedd i gyd allan. A daeth hyn yn hysbys i holl drigolion Jerwsalem, ac felly galwyd y maes hwnnw yn eu hiaith hwy eu hunain yn Aceldama, hynny yw, Maes y Gwaed.) “Oherwydd y mae'n ysgrifenedig yn Llyfr y Salmau: “ ‘Aed ei gartrefle yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddo’, “a hefyd: “ ‘Cymered arall ei oruchwyliaeth.’ “Felly, rhaid i un o'r rhai a fu yn ein cwmni ni yr holl amser y bu'r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein plith ni, o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym, ddod yn dyst gyda ni o'i atgyfodiad ef.” Ystyriwyd dau: Joseff, a elwid Barsabas ac a gyfenwid Jwstus, a Mathias. Yna aethant i weddi: “Adwaenost ti, Arglwydd, galonnau pawb. Amlyga p'run o'r ddau hyn a ddewisaist

Actau 1:12-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth. Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros. Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef. Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,) Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu: Canys efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon. A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd; ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol, a’i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan. A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed. Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymered arall ei esgobaeth ef. Am hynny y mae’n rhaid, o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o’r rhai hyn gyda ni yn dyst o’i atgyfodiad ef. A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff, yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias. A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist