Actau 1:1-3
Actau 1:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Annwyl Theoffilws: Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf am y pethau aeth Iesu ati i’w gwneud a’u dysgu cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i’r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân. Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu.
Actau 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ysgrifennais y llyfr cyntaf, Theoffilus, am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneud a'u dysgu hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny, wedi iddo roi gorchmynion trwy'r Ysbryd Glân i'r apostolion yr oedd wedi eu dewis. Dangosodd ei hun hefyd iddynt yn fyw, wedi ei ddioddefaint, drwy lawer o arwyddion sicr, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain diwrnod a llefaru am deyrnas Dduw.
Actau 1:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y traethawd cyntaf a wneuthum, O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai: I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.