Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 1:1-14

Actau 1:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Annwyl Theoffilws: Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf am y pethau aeth Iesu ati i’w gwneud a’u dysgu cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i’r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân. Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu. Un o’r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi’i addo. Dych chi’n cofio fy mod wedi siarad am hyn o’r blaen. Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi’ch bedyddio â’r Ysbryd Glân.” Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw’n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti’n mynd i ryddhau Israel a’i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?” Ateb Iesu oedd: “Duw sy’n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy’r amserlen mae Duw wedi’i threfnu. Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy’r byd i gyd.” Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i’r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o’i gwmpas a diflannodd o’u golwg. Tra oedden nhw’n syllu i’r awyr yn edrych arno’n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw, a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi’n ei wneud yma yn syllu i’r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i’r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e’n mynd bydd yn dod yn ôl eto.” Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o’r ddinas. Dyma nhw’n cerdded yn ôl i Jerwsalem a mynd yn syth i’r ystafell honno i fyny’r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw’n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago. Roedden nhw’n cyfarfod yno’n gyson i weddïo gyda’i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a’i frodyr, a nifer o wragedd.

Actau 1:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ysgrifennais y llyfr cyntaf, Theoffilus, am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneud a'u dysgu hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny, wedi iddo roi gorchmynion trwy'r Ysbryd Glân i'r apostolion yr oedd wedi eu dewis. Dangosodd ei hun hefyd iddynt yn fyw, wedi ei ddioddefaint, drwy lawer o arwyddion sicr, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain diwrnod a llefaru am deyrnas Dduw. A thra oedd gyda hwy, gorchmynnodd iddynt beidio ag ymadael o Jerwsalem, ond disgwyl am yr hyn a addawodd y Tad. “Fe glywsoch am hyn gennyf fi,” meddai. “Oherwydd â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân ymhen ychydig ddyddiau.” Felly, wedi iddynt ddod ynghyd, fe ofynasant iddo, “Arglwydd, ai dyma'r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?” Dywedodd yntau wrthynt, “Nid chwi sydd i wybod amseroedd neu brydiau y mae'r Tad wedi eu gosod o fewn ei awdurdod ef ei hun. Ond fe dderbyniwch nerth wedi i'r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.” Wedi iddo ddweud hyn, a hwythau'n edrych, fe'i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o'u golwg. Fel yr oeddent yn syllu tua'r nef, ac yntau'n mynd, dyma ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn dillad gwyn, ac meddai'r rhain, “Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua'r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i'r nef.” Yna dychwelsant i Jerwsalem o'r mynydd a elwir Olewydd, sydd yn agos i Jerwsalem, daith Saboth oddi yno. Wedi cyrraedd, aethant i fyny i'r oruwchystafell, lle'r oeddent yn aros: Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot a Jwdas fab Iago. Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi, ynghyd â rhai gwragedd a Mair, mam Iesu, a chyda'i frodyr.

Actau 1:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y traethawd cyntaf a wneuthum, O Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai: I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw. Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi. Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau. Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt-hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen; Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth. Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros. Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef.