2 Timotheus 4:6-8
2 Timotheus 4:6-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi’i dywallt ar yr allor fel diodoffrwm. Mae’r amser i mi adael y byd yma wedi dod. Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i’r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon. Bellach mae’r wobr wedi’i chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl.
2 Timotheus 4:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad wedi dod. Yr wyf wedi ymdrechu'r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i'r pen, yr wyf wedi cadw'r ffydd. Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef.
2 Timotheus 4:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys myfi yr awron a aberthir, ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd. Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i’w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef.