2 Timotheus 4:1-22
2 Timotheus 4:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y Meseia Iesu ydy’r un fydd yn barnu pawb (y rhai sy’n dal yn fyw a’r rhai sydd wedi marw). Mae e’n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw i’n dy siarsio di i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall – a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i’r gwir. Mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw’n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. Byddan nhw’n gwrthod beth sy’n wir ac yn dilyn straeon celwyddog. Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy’n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu’r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi’i roi i ti. Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi’i dywallt ar yr allor fel diodoffrwm. Mae’r amser i mi adael y byd yma wedi dod. Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i’r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon. Bellach mae’r wobr wedi’i chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl. Gwna dy orau i ddod yma’n fuan. Mae Demas wedi caru pethau’r byd yma – mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia. Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith. Dw i’n anfon Tychicus i Effesus. A phan ddoi di, tyrd â’r gôt adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â’r sgroliau hefyd – hynny ydy, y memrynau. Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae’n ei haeddu. Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni. Ddaeth neb i’m cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi’u cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw. Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi’r newyddion da yn llawn, er mwyn i’r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro! A dw i’n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg, ac yn fy arwain yn saff i’r nefoedd ble mae e’n teyrnasu. Mae’n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen! Cofia fi at Priscila ac Acwila a phawb yn nhŷ Onesifforws. Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus. Plîs, gwna dy orau glas i ddod yma cyn i’r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae’r brodyr a’r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti. Dw i’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn di, ac y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw!
2 Timotheus 4:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yng ngŵydd Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd i farnu'r byw a'r meirw, yr wyf yn dy rybuddio ar gyfrif ei ymddangosiad a'i deyrnas ef: pregetha'r gair; bydd yn barod bob amser, boed yn gyfleus neu'n anghyfleus; argyhoedda; cerydda; calonoga; a hyn ag amynedd diball wrth hyfforddi. Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau, gan droi oddi wrth y gwirionedd i wrando ar chwedlau. Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth. Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad wedi dod. Yr wyf wedi ymdrechu'r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i'r pen, yr wyf wedi cadw'r ffydd. Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef. Gwna dy orau i ddod ataf yn fuan, oherwydd rhoddodd Demas ei serch ar y byd hwn, a'm gadael. Aeth ef i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia. Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc, a thyrd ag ef gyda thi, gan ei fod o gymorth mawr i mi yn fy ngweinidogaeth. Anfonais Tychicus i Effesus. Pan fyddi'n dod, tyrd â'r clogyn a adewais ar ôl gyda Carpus yn Troas, a'r llyfrau hefyd, yn arbennig y memrynau. Gwnaeth Alexander, y gof copr, ddrwg mawr imi. Fe dâl yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd. Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf. Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw â chyfrif hyn yn eu herbyn. Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew. A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen. Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus. Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus. Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf. Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Clawdia, a'r cyfeillion oll, yn dy gyfarch. Yr Arglwydd fyddo gyda'th ysbryd di! Gras fyddo gyda chwi!
2 Timotheus 4:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ydwyf fi gan hynny yn gorchymyn gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna’r byw a’r meirw yn ei ymddangosiad a’i deyrnas; Pregetha’r gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth. Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant. Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth. Canys myfi yr awron a aberthir, ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd. Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i’w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef. Bydd ddyfal i ddyfod ataf yn ebrwydd: Canys Demas a’m gadawodd, gan garu’r byd presennol, ac a aeth ymaith i Thesalonica; Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia. Luc yn unig sydd gyda mi. Cymer Marc, a dwg gyda thi: canys buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth. Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus. Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a’r llyfrau, yn enwedig y memrwn. Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd: Yr hwn hefyd gochel dithau; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni. Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a’m gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt. Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a’m nerthodd; fel trwof fi y byddai’r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai’r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew. A’r Arglwydd a’m gwared i rhag pob gweithred ddrwg, ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol: i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus. Erastus a arhosodd yng Nghorinth: ond Troffimus a adewais ym Miletus yn glaf. Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gaeaf. Y mae Eubulus yn dy annerch, a Phudens, a Linus, a Chlaudia, a’r brodyr oll. Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’th ysbryd di. Gras fyddo gyda chwi. Amen. Yr ail epistol at Timotheus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys yr Effesiaid, a ysgrifennwyd o Rufain, pan ddygwyd Paul yr ail waith gerbron Cesar Nero.