2 Timotheus 3:12-17
2 Timotheus 3:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wir, eu herlid a gaiff pawb sydd yn ceisio byw bywyd duwiol yng Nghrist Iesu, ond bydd pobl ddrwg ac ymhonwyr yn mynd o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo. Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. Fe wyddost gan bwy y dysgaist hwy, a'th fod er yn blentyn yn gyfarwydd â'r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i'th wneud yn ddoeth a'th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy'n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.
2 Timotheus 3:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.