2 Timotheus 3:10-17
2 Timotheus 3:10-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond rwyt ti’n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o’r hyn dw i’n ei ddysgu, o sut dw i’n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i’n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati. Rwyt ti’n gwybod am yr erledigaeth a’r cwbl dw i wedi’i ddioddef – beth ddigwyddodd i mi yn Antiochia, yn Iconium a Lystra. Ond mae’r Arglwydd wedi fy achub i o’r cwbl! Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid. Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi’u twyllo’u hunain yr un pryd. Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi’i ddysgu. Rwyt ti’n gwybod yn iawn mai dyna ydy’r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. Roeddet ti’n gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Drwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu. Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.
2 Timotheus 3:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yr wyt ti wedi dilyn yn ofalus fy athrawiaeth i a'm ffordd o fyw, fy ymroddiad, fy ffydd, fy amynedd, fy nghariad a'm dyfalbarhad, yr erlid a'r dioddef a ddaeth i'm rhan yn Antiochia ac Iconium a Lystra; ie, yr holl erledigaethau a ddioddefais. A gwaredodd yr Arglwydd fi o'r cyfan i gyd. Yn wir, eu herlid a gaiff pawb sydd yn ceisio byw bywyd duwiol yng Nghrist Iesu, ond bydd pobl ddrwg ac ymhonwyr yn mynd o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo. Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. Fe wyddost gan bwy y dysgaist hwy, a'th fod er yn blentyn yn gyfarwydd â'r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i'th wneud yn ddoeth a'th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy'n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.
2 Timotheus 3:10-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd, Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra; pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd. Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.