Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Timotheus 3:1-17

2 Timotheus 3:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond dw i eisiau i ti ddeall hyn: Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. Bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw’n hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, yn anufudd i’w rhieni, yn anniolchgar ac yn annuwiol. Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni. Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw’u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw. Maen nhw’n gallu ymddangos yn dduwiol, ond maen nhw’n gwrthod y nerth sy’n gwneud pobl yn dduwiol go iawn. Paid cael dim i’w wneud â phobl felly. Nhw ydy’r math o bobl sy’n twyllo teuluoedd ac yn cymryd mantais o wragedd sy’n hawdd dylanwadu arnyn nhw. Mae’r gwragedd hynny wedyn yn cael eu llethu gan euogrwydd am fod eu chwantau nhw’n cael y gorau arnyn nhw. Gwragedd sy’n cael eu ‘dysgu’ drwy’r adeg, ond yn methu’n lân a chael gafael yn y gwir. Sefyll yn erbyn y gwir mae’r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw – dynion sy’n cogio eu bod nhw’n credu. Ân nhw ddim yn bell iawn. Bydd pawb yn gweld mor ffôl ydyn nhw yn y diwedd, yn union fel ddigwyddodd gyda Jannes a Jambres. Ond rwyt ti’n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o’r hyn dw i’n ei ddysgu, o sut dw i’n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i’n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati. Rwyt ti’n gwybod am yr erledigaeth a’r cwbl dw i wedi’i ddioddef – beth ddigwyddodd i mi yn Antiochia, yn Iconium a Lystra. Ond mae’r Arglwydd wedi fy achub i o’r cwbl! Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid. Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi’u twyllo’u hunain yr un pryd. Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi’i ddysgu. Rwyt ti’n gwybod yn iawn mai dyna ydy’r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. Roeddet ti’n gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Drwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu. Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.

2 Timotheus 3:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Rhaid iti ddeall hyn, fod amserau enbyd i ddod yn y dyddiau diwethaf. Bydd pobl yn hunangar ac yn ariangar, yn ymffrostgar a balch a sarhaus, yn anufudd i'w rhieni, yn anniolchgar ac yn ddigrefydd. Byddant yn ddiserch a digymod, yn enllibus a dilywodraeth ac anwar, heb ddim cariad at ddaioni. Bradwyr fyddant, yn ddi-hid, yn llawn balchder, yn caru pleser yn hytrach na charu Duw, yn cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi. Cadw draw oddi wrth y rhain. Dyma'r math o bobl fydd yn gweithio'u ffordd i mewn i dai rhai eraill, ac yn rhwydo gwragedd ffôl sydd dan faich o bechodau ac yng ngafael pob rhyw nwydau, gwragedd sydd o hyd yn ceisio dysgu ond byth yn gallu cyrraedd at wybodaeth o'r gwirionedd. Yn union fel y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly hefyd y mae'r rhai hyn yn gwrthsefyll y gwirionedd. Pobl lygredig eu meddwl ydynt, ac annerbyniol o ran y ffydd. Ond nid ânt yn eu blaen ddim pellach, oherwydd fe ddaw eu ffolineb hwy, fel eiddo Jannes a Jambres, yn amlwg ddigon i bawb. Ond yr wyt ti wedi dilyn yn ofalus fy athrawiaeth i a'm ffordd o fyw, fy ymroddiad, fy ffydd, fy amynedd, fy nghariad a'm dyfalbarhad, yr erlid a'r dioddef a ddaeth i'm rhan yn Antiochia ac Iconium a Lystra; ie, yr holl erledigaethau a ddioddefais. A gwaredodd yr Arglwydd fi o'r cyfan i gyd. Yn wir, eu herlid a gaiff pawb sydd yn ceisio byw bywyd duwiol yng Nghrist Iesu, ond bydd pobl ddrwg ac ymhonwyr yn mynd o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo. Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. Fe wyddost gan bwy y dysgaist hwy, a'th fod er yn blentyn yn gyfarwydd â'r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i'th wneud yn ddoeth a'th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy'n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.

2 Timotheus 3:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf. Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol, Yn angharedig, yn torri cyfamod, yn enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i’r rhai da, Yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw; A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a’r rhai hyn gochel di. Canys o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau, Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd. Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd. Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau. Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd, Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra; pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd. Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.