2 Timotheus 2:20-21
2 Timotheus 2:20-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi’u gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu’n llestri pridd. Mae’r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd. Os bydd rhywun yn cadw draw o’r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw’n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i’r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da.
2 Timotheus 2:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mewn tŷ mawr y mae nid yn unig lestri aur ac arian ond hefyd lestri pren a chlai, rhai i gael parch ac eraill amarch. Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda.
2 Timotheus 2:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.