Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Timotheus 2:14-26

2 Timotheus 2:14-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dal ati i atgoffa pobl o’r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae’n drysu’r bobl sy’n gwrando. Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti – dy fod di’n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o’i waith. Bydd yn un sy’n esbonio’r gwir yn iawn. Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw. Mae’n rywbeth sy’n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus – maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw’n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl! Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a’r geiriau hyn wedi’u cerfio arni: “Mae’r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy’n dweud eu bod nhw’n perthyn i’r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.” Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi’u gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu’n llestri pridd. Mae’r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd. Os bydd rhywun yn cadw draw o’r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw’n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i’r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da. Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o’i gariad a’i heddwch. Dyma sut mae’r rhai sy’n cyffesu enw’r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn. Paid gwastraffu dy amser gyda rhyw ddyfalu dwl. Dydy pethau felly’n gwneud dim ond achosi gwrthdaro. Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig. Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro’r rhai sy’n tynnu’n groes iddo. Wedi’r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu’r gwir; callio, a dianc o drap y diafol. Ond ar hyn o bryd maen nhw’n gaeth ac yn gwneud beth mae’r diafol eisiau.

2 Timotheus 2:14-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngŵydd Duw i beidio â dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando. Gwna dy orau i'th wneud dy hun yn gymeradwy gan Dduw, fel gweithiwr heb achos i gywilyddio am ei waith, yn ddiwyro wrth gyflwyno gair y gwirionedd. Gochel siarad gwag rhai bydol, oherwydd agor y ffordd y byddant i fwy o annuwioldeb, a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus; y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl. Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sêl sydd arni yw: “Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo”, a “Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni”. Mewn tŷ mawr y mae nid yn unig lestri aur ac arian ond hefyd lestri pren a chlai, rhai i gael parch ac eraill amarch. Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda. Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd â chalon bur. Paid â gwneud dim â chwestiynau ffôl a di-ddysg; fe wyddost mai codi cwerylon a wnânt. Ni ddylai gwas yr Arglwydd fod yn gwerylgar, ond yn dirion tuag at bawb, yn athro da, yn ymarhous, yn addfwyn wrth ddisgyblu'r rhai sy'n tynnu'n groes. Oherwydd pwy a ŵyr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd, ac na ddônt i'w pwyll a dianc o fagl y diafol, yr un a'u rhwydodd a'u caethiwo i'w ewyllys?

2 Timotheus 2:14-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar, Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.