2 Timotheus 2:1-7
2 Timotheus 2:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di’n gryf. Dwed di wrth eraill beth glywaist ti fi’n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna’r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill. A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia. Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy’n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio’i gapten. Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau. A’r ffermwr sy’n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o’r cnwd. Meddylia am beth dw i’n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd.
2 Timotheus 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd. Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu. Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu â gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog. Ac os yw rhywun yn cystadlu mewn mabolgampau, ni all ennill y dorch heb gystadlu yn ôl y rheolau. Y ffermwr sy'n llafurio sydd â'r hawl gyntaf ar y cnwd. Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth.
2 Timotheus 2:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth.