2 Timotheus 1:3-7
2 Timotheus 1:3-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti – y Duw dw i’n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos. Dw i’n cofio dy ddagrau di pan oeddwn i’n dy adael, a dw i’n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny’n fy ngwneud i’n wirioneddol hapus. Dw i’n cofio fel rwyt ti’n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i’n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath. Dyna pam dw i am i ti ailgynnau’r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i’r gwaith. Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i’n gwneud ni’n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol.
2 Timotheus 1:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn diolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu â chydwybod bur fel y gwnaeth fy hynafiaid, pan fyddaf yn cofio amdanat yn fy ngweddïau, fel y gwnaf yn ddi-baid nos a dydd. Wrth gofio am dy ddagrau, rwy'n hiraethu am dy weld a chael fy llenwi â llawenydd. Daw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd gennyt, ffydd a drigodd gynt yn Lois, dy nain, ac yn Eunice, dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd. O ganlyniad, yr wyf yn dy atgoffa i gadw ynghynn y ddawn a roddodd Duw iti, y ddawn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth.
2 Timotheus 1:3-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd; Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd. Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.