2 Timotheus 1:1-5
2 Timotheus 1:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul, gafodd ei ddewis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. Wedi fy anfon i ddweud wrth bobl am y bywyd sydd wedi’i addo i’r rhai sydd â pherthynas â Iesu y Meseia, At Timotheus, sydd fel mab annwyl i mi: Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Meseia Iesu, ein Harglwydd, yn ei roi i ni. Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti – y Duw dw i’n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos. Dw i’n cofio dy ddagrau di pan oeddwn i’n dy adael, a dw i’n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny’n fy ngwneud i’n wirioneddol hapus. Dw i’n cofio fel rwyt ti’n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i’n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath.
2 Timotheus 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn unol â'r addewid am y bywyd sydd yng Nghrist Iesu, at Timotheus, ei blentyn annwyl. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd. Yr wyf yn diolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu â chydwybod bur fel y gwnaeth fy hynafiaid, pan fyddaf yn cofio amdanat yn fy ngweddïau, fel y gwnaf yn ddi-baid nos a dydd. Wrth gofio am dy ddagrau, rwy'n hiraethu am dy weld a chael fy llenwi â llawenydd. Daw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd gennyt, ffydd a drigodd gynt yn Lois, dy nain, ac yn Eunice, dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd.
2 Timotheus 1:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd. Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd; Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd.