Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Timotheus 1:1-18

2 Timotheus 1:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn unol â'r addewid am y bywyd sydd yng Nghrist Iesu, at Timotheus, ei blentyn annwyl. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd. Yr wyf yn diolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu â chydwybod bur fel y gwnaeth fy hynafiaid, pan fyddaf yn cofio amdanat yn fy ngweddïau, fel y gwnaf yn ddi-baid nos a dydd. Wrth gofio am dy ddagrau, rwy'n hiraethu am dy weld a chael fy llenwi â llawenydd. Daw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd gennyt, ffydd a drigodd gynt yn Lois, dy nain, ac yn Eunice, dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd. O ganlyniad, yr wyf yn dy atgoffa i gadw ynghynn y ddawn a roddodd Duw iti, y ddawn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth. Felly, na foed cywilydd arnat roi tystiolaeth am ein Harglwydd, na chywilydd ohonof fi, ei garcharor ef; ond cymer dy gyfran o ddioddefaint dros yr Efengyl, trwy'r nerth yr ydym yn ei gael gan Dduw. Ef a'n hachubodd ni, a'n galw â galwedigaeth sanctaidd, nid ar sail ein gweithredoedd ond yn unol â'i arfaeth ei hun a'i ras, y gras a roddwyd inni yng Nghrist Iesu cyn dechrau'r oesoedd, ond a amlygwyd yn awr drwy ymddangosiad ein Gwaredwr, Crist Iesu. Oherwydd y mae ef wedi dirymu marwolaeth, a dod â bywyd ac anfarwoldeb i'r golau trwy'r Efengyl. I'r Efengyl hon yr wyf fi wedi fy mhenodi'n bregethwr, yn apostol ac yn athro. Dyma'r rheswm, yn wir, fy mod yn dioddef yn awr. Ond nid oes arnaf gywilydd o'r peth, oherwydd mi wn pwy yr wyf wedi ymddiried ynddo, ac rwy'n gwbl sicr fod ganddo ef allu i gadw'n ddiogel hyd y Dydd hwnnw yr hyn a ymddiriedodd i'm gofal. Cymer fel patrwm i'w ddilyn y geiriau iachusol a glywaist gennyf fi, wrth fyw yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu. Cadw'n ddiogel, trwy nerth yr Ysbryd Glân sy'n trigo ynom, y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i'th ofal. Fel y gwyddost, y mae pawb yn Asia wedi cefnu arnaf, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. Ond dangosed yr Arglwydd drugaredd tuag at deulu Onesifforus, oherwydd cododd ef fy nghalon droeon, ac ni bu arno gywilydd fy mod mewn cadwynau. Yn wir, pan ddaeth i Rufain, aeth i drafferth fawr i chwilio amdanaf, a daeth o hyd imi. Rhodded yr Arglwydd iddo ddod o hyd i drugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw. Fe wyddost ti yn dda gymaint o wasanaeth a roddodd ef yn Effesus.

2 Timotheus 1:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Llythyr gan Paul, gafodd ei ddewis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. Wedi fy anfon i ddweud wrth bobl am y bywyd sydd wedi’i addo i’r rhai sydd â pherthynas â Iesu y Meseia, At Timotheus, sydd fel mab annwyl i mi: Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Meseia Iesu, ein Harglwydd, yn ei roi i ni. Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti – y Duw dw i’n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos. Dw i’n cofio dy ddagrau di pan oeddwn i’n dy adael, a dw i’n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny’n fy ngwneud i’n wirioneddol hapus. Dw i’n cofio fel rwyt ti’n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i’n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath. Dyna pam dw i am i ti ailgynnau’r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i’r gwaith. Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i’n gwneud ni’n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol. Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A phaid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da. Mae Duw wedi’n hachub ni a’n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â’r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau, a bellach mae haelioni Duw i’w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy’r newyddion da. Dyma’r newyddion da dw i wedi cael fy newis i’w gyhoeddi a’i ddysgu fel cynrychiolydd personol Iesu. Dyna pam dw i’n dioddef fel rydw i. Ond does gen i ddim cywilydd, achos dw i’n nabod yr un dw i wedi credu ynddo. Dw i’n hollol sicr ei fod yn gallu cadw popeth dw i wedi’i roi yn ei ofal yn saff, nes daw’r diwrnod pan fydd e’n dod yn ôl. Cofia beth wnes i ei ddweud, a’i gadw fel patrwm o ddysgeidiaeth gywir. Dal di ati i gredu ynddo ac i garu eraill am dy fod yn perthyn i’r Meseia Iesu. Gyda help yr Ysbryd Glân sy’n byw ynon ni, cadw’r trysor sydd wedi’i roi yn dy ofal yn saff. Fel rwyt ti’n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. Dw i’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn arbennig o garedig at Onesifforws a phawb arall yn ei dŷ. Mae e wedi codi fy nghalon i lawer gwaith, a doedd ganddo ddim cywilydd fy mod i yn y carchar. Yn hollol fel arall! – pan ddaeth i Rufain, buodd yn chwilio amdana i ym mhobman nes llwyddo i ddod o hyd i mi. Boed i’r Arglwydd fod yn arbennig o garedig ato ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl! Rwyt ti’n gwybod cymaint o help fuodd e i mi yn Effesus.

2 Timotheus 1:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd. Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd; Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd. Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll. Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl, yn ôl nerth Duw; Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau’r byd, Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl: I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro’r Cenhedloedd. Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw. Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom. Ti a wyddost hyn, ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes. Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus; canys efe a’m llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i: Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a’m cafodd. Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.