Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 9:1-13

2 Samuel 9:1-13 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dyma Dafydd yn gofyn, “Oes yna unrhyw un yn dal ar ôl o deulu Saul, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo i Jonathan?” A dyma ddyn o’r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.” Dyma’r brenin yn ei holi, “Oes yna unrhyw un o deulu Saul yn dal yn fyw, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo o flaen Duw?” Atebodd Siba, “Oes. Mae yna fab i Jonathan sy’n dal yn fyw. Mae e’n anabl. Mae e’n gloff yn ei ddwy droed.” “Ble mae e?” meddai’r brenin. A dyma Siba’n dweud, “Mae e yn Lo-defâr, yn aros gyda Machir fab Ammiel.” Felly dyma’r Brenin Dafydd yn anfon i’w nôl o dŷ Machir. Pan ddaeth Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) at y Brenin Dafydd, dyma fe’n mynd ar ei liniau ac ymgrymu o’i flaen â’i wyneb ar lawr. “Meffibosheth?” meddai Dafydd. Ac atebodd, “Ie, syr, dy was di.” “Paid bod ag ofn,” meddai Dafydd wrtho, “Dw i’n mynd i fod yn garedig atat ti, fel gwnes i addo i dy dad Jonathan. Dw i am roi tir dy daid Saul yn ôl i ti, a byddi’n cael bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” Dyma Meffibosheth yn ymgrymu eto a dweud, “Pwy ydw i? Pam ddylet ti gymryd sylw o gi marw fel fi?” Yna dyma’r brenin yn galw am Siba, gwas Saul. Ac meddai wrtho, “Dw i wedi rhoi popeth oedd piau Saul a’i deulu i ŵyr dy feistr. Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.) Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi’i orchymyn.” Felly cafodd Meffibosheth fwyta’n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai’n un o feibion y brenin ei hun. Roedd gan Meffibosheth fab bach o’r enw Micha. Roedd teulu Siba i gyd, a’i weision, yn gweithio i Meffibosheth. Ond roedd Meffibosheth ei hun yn byw yn Jerwsalem, ac yn cael bwyta’n rheolaidd wrth fwrdd y brenin. Roedd e’n anabl – yn gloff yn ei ddwy droed.

2 Samuel 9:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Meddyliodd Dafydd, “Tybed a oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul erbyn hyn, imi wneud caredigrwydd ag ef er mwyn Jonathan?” Yr oedd gan deulu Saul was o'r enw Siba, a galwyd ef at Ddafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ai Siba wyt ti?” Atebodd yntau, “Ie, dyma dy was.” Yna gofynnodd y brenin, “A oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul imi wneud caredigrwydd ag ef yn enw Duw?” Atebodd Siba, “Oes, y mae mab i Jonathan sydd yn gloff yn ei draed.” Gofynnodd y brenin, “Ple mae ef?” A dywedodd Siba, “Y mae yn Lo-debar, yng nghartref Machir fab Ammiel.” Anfonodd y Brenin Dafydd a'i gyrchu o Lo-debar, o gartref Machir fab Ammiel. Pan gyrhaeddodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul, syrthiodd ar ei wyneb o flaen Dafydd ac ymgreinio; gofynnodd Dafydd, “Meffiboseth?” ac atebodd yntau, “Ie, dyma dy was.” Dywedodd Dafydd wrtho, “Paid ag ofni, yr wyf wedi penderfynu gwneud caredigrwydd â thi er mwyn Jonathan dy dad; yr wyf am roi'n ôl i ti holl dir dy daid Saul, ac fe gei di dy fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.” Moesymgrymodd Meffiboseth a dweud, “Beth yw dy was, dy fod yn troi i edrych ar gi marw fel fi?” Yna galwodd y brenin am Siba gwas Saul, a dweud wrtho, “Yr wyf yn rhoi i fab dy feistr bopeth oedd yn perthyn i Saul ac i unrhyw un o'i deulu. Yr wyt ti i lafurio'r tir drosto—ti, a'th blant, a'th weision—a dod â'r cynnyrch yn fwyd i deulu dy feistr; ond caiff Meffiboseth, mab dy feistr, ei fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.” Yr oedd gan Siba bymtheg o feibion ac ugain gwas. Dywedodd Siba wrth y brenin, “Fe wna dy was yn union fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn iddo.” Bu Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd fel un o blant y brenin. Yr oedd ganddo fab bach o'r enw Micha. Yr oedd pawb oedd yn byw yn nhŷ Siba yn weision i Meffiboseth. Yr oedd Meffiboseth yn byw yn Jerwsalem am ei fod yn cael ei fwyd bob dydd wrth fwrdd y brenin. Yr oedd yn gloff yn ei ddeudroed.

2 Samuel 9:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Dafydd a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan? Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe. A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd DUW ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed. A dywedodd y brenin wrtho, Pa le y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Ammïel, yn Lo-debar. Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dŷ Machir, mab Ammïel, o Lo-debar. A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Dafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was. A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol. Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit ar gi marw o’m bath i? Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef, a roddais i fab dy feistr di. A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a’th feibion, a’th weision, ac a’u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision. Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin. Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a’i enw oedd Micha. A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth. A Meffiboseth a drigodd yn Jerwsalem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o’i ddeudroed.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd