2 Samuel 7:18-24
2 Samuel 7:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, “Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod â mi hyd yma? Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Arglwydd DDUW, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglŷn â theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a gwneud hyn yn drefn dragwyddol, O Arglwydd DDUW. Beth yn rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt, a thithau yn adnabod dy was, O Arglwydd DDUW? Oherwydd dy addewid, ac yn ôl dy ewyllys, y gwnaethost yr holl fawredd hwn, a'i hysbysu i'th was. Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti. A phwy sydd fel dy bobl Israel, cenedl unigryw ar y ddaear? Aeth Duw ei hun i'w phrynu iddo'n bobl, ac i ennill bri iddo'i hun, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy er ei mwyn, trwy fwrw allan genhedloedd a'u duwiau o flaen dy bobl, y rhai a brynaist i ti dy hun o'r Aifft. Sicrheaist ti dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.
2 Samuel 7:18-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD, pwy ydw i? Dw i’n neb, na’m teulu chwaith. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma’r ffordd wyt ti’n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD? Beth alla i ddweud? Ti’n gwybod sut un ydy dy was, fy Meistr, ARGLWYDD. Am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma a dweud wrtho i amdanyn nhw. “O, Feistr, ARGLWYDD, rwyt ti mor fawr! Does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall yn bod heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! A phwy sy’n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi’n wlad unigryw ar y ddaear – yn wlad aeth Duw i’w gollwng yn rhydd a’u gwneud yn bobl iddo’i hun. Ti’n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o’r Aifft a gyrru’r cenhedloedd paganaidd a’u duwiau allan o’r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw. Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.
2 Samuel 7:18-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr ARGLWYDD: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd DDUW? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd DDUW; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd DDUW? A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd DDUW. Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod. Am hynny y’th fawrhawyd, O ARGLWYDD DDUW; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes DUW onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau. A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth DUW i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau? Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, ydwyt iddynt hwy yn DDUW.