2 Samuel 7:10-16
2 Samuel 7:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt, pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; rhoddaf iti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn dy hysbysu mai ef, yr ARGLWYDD, fydd yn gwneud tŷ i ti. Pan ddaw dy ddyddiau i ben, a thithau'n gorwedd gyda'th hynafiaid, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu ohonot, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn. Ef fydd yn adeiladu tŷ i'm henw, a gwnaf innau orsedd ei deyrnas yn gadarn am byth. Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi. Pan fydd yn troseddu, ceryddaf ef â gwialen fel y gwna rhywun, ac â chernodiau dynol, ond ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth Saul pan symudais ef o'r ffordd o'th flaen. Sicrheir dy deulu a'th deyrnas am byth o'm blaen; erys dy orsedd yn gadarn hyd byth.’ ”
2 Samuel 7:10-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw’n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o’r blaen, pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i’w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae’r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy’n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol! Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu, bydda i’n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti. A bydda i’n gwneud ei deyrnas e yn gadarn. Bydd e’n adeiladu teml i’m anrhydeddu i; a bydda i’n gwneud yn siŵr y bydd e’n teyrnasu am byth. Bydda i yn dad iddo, a bydd e’n fab i mi. Pan fydd e’n gwneud drwg bydda i’n defnyddio pobl i’w gosbi. Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo, yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di. Bydd dy deulu di yn teyrnasu o mlaen i am byth. Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’”
2 Samuel 7:10-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt; Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r ARGLWYDD sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti. A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef. Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth. Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion: Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di. A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.