Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 7:1-13

2 Samuel 7:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch i’r wlad, ac roedd y Brenin Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas. A dyma’r brenin yn dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i’n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch Duw yn dal mewn pabell.” A dyma Nathan yn ateb, “Mae’r ARGLWYDD gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti’n feddwl sy’n iawn.” Ond y noson honno dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i Nathan, “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi? Dw i erioed wedi byw mewn teml, o’r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o’r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o le i le mewn pabell. Ble bynnag roeddwn i’n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i’r rhai wnes i eu penodi i ofalu am lwythau Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’ “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Fi wnaeth dy gymryd di o’r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di’n arweinydd ar fy mhobl Israel. Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i’n mynd i dy wneud di’n enwog drwy’r byd i gyd. Dw i’n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw’n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o’r blaen, pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i’w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae’r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy’n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol! Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu, bydda i’n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti. A bydda i’n gwneud ei deyrnas e yn gadarn. Bydd e’n adeiladu teml i’m anrhydeddu i; a bydda i’n gwneud yn siŵr y bydd e’n teyrnasu am byth.

2 Samuel 7:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r ARGLWYDD lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch: Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch DUW yn aros o fewn y cortynnau. A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: canys yr ARGLWYDD sydd gyda thi. A bu, y noson honno, i air yr ARGLWYDD ddyfod at Nathan, gan ddywedyd, Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi? Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl. Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel. A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear. Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt; Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r ARGLWYDD sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti. A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef. Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth.

2 Samuel 7:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi i'r brenin fynd i fyw i'w dŷ ei hun, ac i'r ARGLWYDD roi llonyddwch iddo oddi wrth ei holl elynion o'i amgylch, dywedodd y brenin wrth y proffwyd Nathan, “Edrych yn awr, yr wyf fi'n trigo mewn tŷ o gedrwydd, tra mae arch Duw yn aros mewn pabell.” Ac meddai Nathan wrth y brenin, “Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae'r ARGLWYDD gyda thi.” Ond y noson honno daeth gair yr ARGLWYDD at Nathan, gan ddweud, “Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: A wyt ti am adeiladu i mi dŷ i breswylio ynddo? Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tŷ o'r diwrnod y dygais yr Israeliaid allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o le i le mewn pabell a thabernacl. Ple bynnag y bûm yn teithio gyda'r holl Israeliaid, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl Israel, a gofyn, “Pam na fyddech wedi adeiladu tŷ o gedrwydd i mi?” ’ Felly, dywed fel hyn wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel. Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear. Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt, pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; rhoddaf iti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn dy hysbysu mai ef, yr ARGLWYDD, fydd yn gwneud tŷ i ti. Pan ddaw dy ddyddiau i ben, a thithau'n gorwedd gyda'th hynafiaid, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu ohonot, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn. Ef fydd yn adeiladu tŷ i'm henw, a gwnaf innau orsedd ei deyrnas yn gadarn am byth.