2 Samuel 22:21-33
2 Samuel 22:21-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni; yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu. Talodd yr ARGLWYDD imi yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg. Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius, ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair. Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo. “Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? A phwy sydd graig ond ein Duw ni? Duw yw fy nghaer gadarn, sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.
2 Samuel 22:21-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw’n gyfiawn; mae fy nwylo’n lân, ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg. Dw i wedi cadw ei ddeddfau’n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau. Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn. Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw’n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo’n lân. Rwyt ti’n ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon, ac yn deg â’r rhai di-euog. Mae’r rhai di-fai yn dy brofi’n ddi-fai, ond rwyt ti’n fwy craff na’r rhai anonest. Ti’n achub pobl sy’n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch. Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD, ti’n rhoi golau i mi yn y tywyllwch. Gyda ti gallaf ruthro allan i’r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw! Mae Duw yn gwneud beth sy’n iawn; mae’r ARGLWYDD yn dweud beth sy’n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy’n troi ato. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i’n Duw ni? Fe ydy’r Duw sy’n fy amddiffyn â’i nerth – mae’n symud pob rhwystr o’m blaen.
2 Samuel 22:21-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW. Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i. Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd. A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef. A’r trugarog y gwnei drugaredd: â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng. Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch. Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy NUW y llamaf dros fur. DUW sydd berffaith ei ffordd; ymadrodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo. Canys pwy sydd DDUW, heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig, eithr ein DUW ni? DUW yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith.