2 Samuel 17:1-2
2 Samuel 17:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd 12,000 o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno! Bydd e wedi blino’n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i’n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd.
2 Samuel 17:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Ahitoffel wrth Absalom, “Gad imi ddewis deuddeng mil o ddynion a mynd ar ôl Dafydd heno. Dof ar ei warthaf pan fydd yn lluddedig a diymadferth, a chodaf arswyd arno, nes bod pawb sydd gydag ef yn ffoi; ni laddaf neb ond y brenin
2 Samuel 17:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon. A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig.