2 Pedr 3:3-9
2 Pedr 3:3-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Y peth pwysig i’w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‘chwarae crefydd’, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o’r gwirionedd. Byddan nhw’n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid – mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau’r byd!” Ond wrth siarad felly maen nhw’n diystyru rhai ffeithiau. Roedd nefoedd a daear yn bod ymhell bell yn ôl am fod Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ffurfio. Daeth y ddaear allan o ddŵr, a chafodd tir sych ei amgylchynu gan ddŵr. Wedyn defnyddiodd Duw yr un dŵr i ddod â dinistr i’r byd drwy foddi’r cwbl adeg y dilyw. Ac mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a’r ddaear bresennol wedi’u cadw i fynd drwy dân. Ie, wedi’u cadw ar gyfer dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio. Peidiwch anghofio hyn, ffrindiau annwyl: I’r Arglwydd mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod . Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi’i addo, fel mae rhai’n meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.
2 Pedr 3:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Deallwch hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr sy'n byw yn ôl eu chwantau eu hunain, ac yn holi'n goeglyd: “Beth a ddaeth o'r addewid am ei ddyfodiad ef? Oherwydd, byth er pan hunodd yr hynafiaid, y mae popeth wedi parhau yn union fel y bu o ddechreuad y greadigaeth.” Y maent yn fwriadol yn anwybyddu'r ffaith hon, fod y nefoedd yn bod erstalwm, a'r ddaear wedi ei llunio o ddŵr a thrwy ddŵr gan air Duw; a thrwy ddŵr y dinistriwyd byd yr oes honno, sef dŵr y dilyw. Gan yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn stôr ar gyfer y tân; y maent ar gadw hyd Ddydd barn a distryw yr annuwiol. Gyfeillion annwyl, peidiwch ag anghofio'r un peth hwn, fod un diwrnod yng ngolwg yr Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod. Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch.
2 Pedr 3:3-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr. Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.