2 Pedr 2:4-11
2 Pedr 2:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd nid arbedodd Duw yr angylion a bechodd; traddododd hwy i garchar tywyll uffern, i'w cadw hyd y Farn. Nid arbedodd yr hen fyd chwaith, er iddo ddiogelu Noa, pregethwr cyfiawnder, ynghyd â saith arall, wrth ddwyn y dilyw ar fyd y rhai annuwiol. Condemniodd hefyd ddinasoedd Sodom a Gomorra i ddistryw; llosgodd hwy'n lludw, a'u gosod yn esiampl o'r hyn sydd i ddigwydd i'r annuwiol. Gwaredodd Lot, gŵr cyfiawn oedd yn cael ei drallodi gan fywyd anllad rhai afreolus; oherwydd wrth i'r gŵr cyfiawn hwn fyw yn eu plith, yr oedd gweld a chlywed eu gweithredoedd aflywodraethus yn artaith feunyddiol i'w enaid cyfiawn. Y mae'r Arglwydd yn medru gwaredu'r duwiol o'u treialon, a chadw'r anghyfiawn hyd Ddydd y Farn i'w cosbi, ac yn arbennig felly y rhai sy'n byw i borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod. Y maent yn rhyfygus a thrahaus, ac yn sarhau'r bodau nefol yn gwbl eofn, rhywbeth nad yw'r angylion, er eu rhagoriaeth mewn nerth a gallu, yn ei wneud wrth gyhoeddi barn yn eu herbyn hwy gerbron yr Arglwydd.
2 Pedr 2:4-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed yr angylion oedd yn euog o bechu yn ei erbyn. Anfonodd nhw i uffern, a’u rhwymo yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol i ddisgwyl cael eu cosbi. Wnaeth e ddim arbed yr hen fyd chwaith. Anfonodd lifogydd y dilyw i foddi’r byd oedd yn llawn o bobl oedd yn tynnu’n groes iddo. Dim ond Noa a saith aelod o’i deulu gafodd eu harbed. Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw. Wedyn cafodd trefi Sodom a Gomorra eu llosgi’n ulw, a’u gwneud yn esiampl o beth sy’n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol. Ond cafodd Lot ei achub o Gomorra am ei fod e’n ddyn oedd yn gwneud beth oedd yn iawn. Roedd yn torri ei galon wrth weld ymddygiad diegwyddor a phenrhyddid llwyr pobl o’i gwmpas. Roedd Lot yn ceisio gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Duw. Roedd yn cael ei boeni’n enbyd gan y pethau ofnadwy roedd yn ei weld ac yn ei glywed o’i gwmpas. Felly mae’r Arglwydd yn gwybod yn iawn sut i achub pobl dduwiol o ganol eu treialon. Ond mae’n cadw pobl ddrwg i’w cosbi pan ddaw dydd y farn. Mae Duw yn arbennig o llym wrth gosbi’r rhai hynny sy’n gwneud dim ond dilyn eu chwantau. Pobl sy’n gadael i’w natur bechadurus lygredig reoli eu bywydau, ac sy’n wfftio awdurdod yr Arglwydd. Maen nhw mor haerllug ac mor siŵr ohonyn nhw eu hunain does ganddyn nhw ddim ofn enllibio’r diafol a’i angylion. Dydy hyd yn oed angylion Duw, sy’n llawer cryfach a mwy pwerus na nhw, ddim yn eu henllibio nhw wrth eu cyhuddo o flaen Duw.
2 Pedr 2:4-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth; Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a’u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol; Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni: Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas: Lle nid yw’r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd.