2 Pedr 2:21-22
2 Pedr 2:21-22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Byddai’n well iddyn nhw beidio gwybod o gwbl am y ffordd iawn, na bod wedi dod o hyd i’r ffordd honno ac wedyn troi’u cefnau ar y ddysgeidiaeth dda gafodd ei basio ymlaen iddyn nhw. Mae’r hen ddihareb yn wir!: “Mae ci’n mynd yn ôl at ei chwŷd.” Ydy, “Mae hwch, ar ôl ymolchi, yn mynd yn ôl i orweddian yn y mwd.”
2 Pedr 2:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byddai'n well iddynt hwy fod heb ddod i adnabod ffordd cyfiawnder, yn hytrach na'i hadnabod ac yna droi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. Gwireddwyd, yn eu hachos hwy, y ddihareb: “Y mae ci yn troi'n ôl at ei gyfog ei hun”, a hefyd: “Y mae'r hwch a ymolchodd yn ymdrybaeddu yn y llaid.”
2 Pedr 2:21-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt. Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a’r hwch wedi ei golchi, i’w hymdreiglfa yn y dom.