2 Pedr 1:5-7
2 Pedr 1:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’n union pam ddylech chi wneud popeth posib i sicrhau fod daioni yn nodweddu eich cred. Wedyn dylai’r pethau yma ddilyn yn eu tro: doethineb ymarferol, hunanreolaeth, dycnwch, byw fel mae Duw am i chi fyw, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a chariad cwbl ddiamod.
2 Pedr 1:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am yr union reswm yma, felly, gwnewch eich gorau glas i ychwanegu rhinwedd at eich ffydd, gwybodaeth at rinwedd, hunanddisgyblaeth at wybodaeth, dyfalbarhad at hunanddisgyblaeth, duwioldeb at ddyfalbarhad, brawdgarwch at dduwioldeb, a chariad at frawdgarwch.
2 Pedr 1:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad.