2 Pedr 1:20-21
2 Pedr 1:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r Ysgrythur yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân.
2 Pedr 1:20-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau’r proffwyd ei hun ydy’r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd. Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw’n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.
2 Pedr 1:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.