2 Pedr 1:16-18
2 Pedr 1:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid dilyn chwedlau wedi eu dyfeisio'n gyfrwys yr oeddem wrth hysbysu i chwi allu ein Harglwydd Iesu Grist a'i ddyfodiad; yn hytrach, yr oeddem wedi ei weld â'n llygaid ein hunain yn ei fawredd. Yr oeddem yno pan roddwyd iddo anrhydedd a gogoniant gan Dduw Dad, pan ddaeth y llais ato o'r Gogoniant goruchel yn dweud: “Hwn yw fy Mab, fy Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.” Fe glywsom ni'r llais hwn yn dod o'r nef, oherwydd yr oeddem gydag ef ar y mynydd sanctaidd.
2 Pedr 1:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni’n llygad-dystion i’w fawrhydi! Gwelon ni e’n cael ei anrhydeddu a’i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i’n llwyr” . Clywon ni’r llais hwn yn dod o’r nefoedd pan oedden ni gydag e ar ben y mynydd sanctaidd.
2 Pedr 1:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.