Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Pedr 1:1-21

2 Pedr 1:1-21 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Llythyr gan Simon Pedr, gwas a chynrychiolydd personol Iesu Grist, At y rhai sydd â ffydd yr un mor werthfawr â ni. Dydy Iesu Grist, ein Duw a’n Hachubwr ni, ddim yn rhoi ffafriaeth i neb: Dw i’n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a’i heddwch dwfn arnoch chi wrth i chi ddod i nabod Duw a Iesu ein Harglwydd yn well. Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi’n galw ni i berthynas gydag e’i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni. A thrwy hyn i gyd mae wedi addo cymaint o bethau mawr a gwerthfawr i ni. Y pethau yma sy’n eich galluogi chi i rannu ym mywyd anfarwol y natur ddwyfol. Dych chi’n osgoi’r dirywiad moesol sydd wedi lledu drwy’r byd o ganlyniad i chwantau pechadurus. Dyma’n union pam ddylech chi wneud popeth posib i sicrhau fod daioni yn nodweddu eich cred. Wedyn dylai’r pethau yma ddilyn yn eu tro: doethineb ymarferol, hunanreolaeth, dycnwch, byw fel mae Duw am i chi fyw, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a chariad cwbl ddiamod. Os ydy’r pethau yma i’w gweld yn eich bywyd chi fwyfwy bob dydd, byddwch chi’n tyfu ac yn aeddfedu fel pobl sy’n nabod ein Harglwydd Iesu Grist. Mae’r rhai sydd heb y pethau yma yn eu bywydau mor fyr eu golwg maen nhw’n ddall! Maen nhw wedi anghofio’r newid ddigwyddodd pan gawson nhw eu glanhau o bechodau’r gorffennol. Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi’ch galw chi a’ch dewis chi. Dych chi’n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi’r pethau hyn, a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth. Felly dw i’n mynd i ddal ati drwy’r adeg i’ch atgoffa chi o’r pethau yma. Dych chi’n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd. Ond dw i’n teimlo cyfrifoldeb i ddal ati i’ch atgoffa chi tra dw i’n dal yn fyw. Dw i’n gwybod fod fy amser i yn y corff yma ar fin dod i ben. Mae’r Arglwydd Iesu Grist wedi dangos hynny’n ddigon clir i mi. Felly dw i eisiau gwneud yn siŵr y byddwch chi’n dal i gofio’r pethau yma ar ôl i mi farw. Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni’n llygad-dystion i’w fawrhydi! Gwelon ni e’n cael ei anrhydeddu a’i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i’n llwyr” . Clywon ni’r llais hwn yn dod o’r nefoedd pan oedden ni gydag e ar ben y mynydd sanctaidd. A dŷn ni’n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai’n beth da i chithau dalu sylw i’r neges honno. Mae fel lamp sy’n goleuo rhywle tywyll nes i’r dydd wawrio ac i ‘seren y bore’ godi i oleuo eich meddyliau chi. Mae’n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau’r proffwyd ei hun ydy’r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd. Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw’n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.

2 Pedr 1:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Simeon Pedr, gwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai sydd, trwy gyfiawnder ein Duw a'n Gwaredwr Iesu Grist, wedi derbyn ffydd gyfuwch ei gwerth â'r eiddom ninnau. Gras a thangnefedd a amlhaer i chwi trwy adnabyddiaeth o Dduw ac Iesu ein Harglwydd! Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd â'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun. Trwy hyn y mae ef wedi rhoi i ni addewidion gwerthfawr dros ben, er mwyn i chwi trwyddynt hwy ddianc o afael llygredigaeth y trachwant sydd yn y byd, a dod yn gyfranogion o'r natur ddwyfol. Am yr union reswm yma, felly, gwnewch eich gorau glas i ychwanegu rhinwedd at eich ffydd, gwybodaeth at rinwedd, hunanddisgyblaeth at wybodaeth, dyfalbarhad at hunanddisgyblaeth, duwioldeb at ddyfalbarhad, brawdgarwch at dduwioldeb, a chariad at frawdgarwch. Oherwydd os yw'r rhain gennych, ac ar gynnydd, byddant yn peri nad diog a diffrwyth fyddwch yn eich adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist. Ond hebddynt y mae rhywun mor fyr ei olwg nes bod yn ddall, heb ddim cof ganddo am y glanhad oddi wrth ei bechodau gynt. Dyna pam, gyfeillion, y dylech ymdrechu'n fwy byth i wneud eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr. Oherwydd os gwnewch hyn, ni lithrwch byth. Felly y rhydd Duw ichwi, o'i haelioni, fynediad i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Am hynny, rwy'n bwriadu eich atgoffa'n wastad am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sefydlu'n gadarn yn y gwirionedd sydd gennych. Tra bydd y cnawd hwn yn babell imi, yr wyf yn ystyried ei bod hi'n iawn imi eich deffro trwy eich atgoffa amdanynt. Gwn y bydd yn rhaid i mi roi fy mhabell heibio yn fuan, fel y mae ein Harglwydd Iesu Grist, yn wir, wedi gwneud yn eglur imi. Gwnaf fy ngorau, felly, i ofalu y byddwch, ar ôl fy ymadawiad, yn gallu dwyn y pethau hyn yn wastad i gof. Nid dilyn chwedlau wedi eu dyfeisio'n gyfrwys yr oeddem wrth hysbysu i chwi allu ein Harglwydd Iesu Grist a'i ddyfodiad; yn hytrach, yr oeddem wedi ei weld â'n llygaid ein hunain yn ei fawredd. Yr oeddem yno pan roddwyd iddo anrhydedd a gogoniant gan Dduw Dad, pan ddaeth y llais ato o'r Gogoniant goruchel yn dweud: “Hwn yw fy Mab, fy Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.” Fe glywsom ni'r llais hwn yn dod o'r nef, oherwydd yr oeddem gydag ef ar y mynydd sanctaidd. Y mae gennym hefyd genadwri gwbl ddibynadwy y proffwydi; a pheth da fydd i chwi roi sylw iddi, gan ei bod fel cannwyll yn disgleirio mewn lle tywyll, hyd nes y bydd y Dydd yn gwawrio a seren y bore yn codi i lewyrchu yn eich calonnau. Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r Ysgrythur yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân.

2 Pedr 1:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist: Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd: Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffáu bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol. Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi; Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn. Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.