2 Brenhinoedd 4:38-44
2 Brenhinoedd 4:38-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dychwelodd Eliseus i Gilgal pan oedd newyn yn y wlad. Yr oedd nifer o broffwydi dan ei ofal, a dywedodd wrth ei was, “Gosod y crochan mawr ar y tân a berwa gawl i'r proffwydi.” Yr oedd un ohonynt wedi mynd allan i'r maes i gasglu llysiau, a chafodd winwydden wyllt, a chasglodd goflaid llawn o rawn gwylltion oddi arni, heb wybod beth oeddent, a dod a'u bwrw i'r crochan cawl. Tywalltwyd y cawl i'r proffwydi ei fwyta, a chyn gynted ag iddynt brofi o'r cawl, yr oeddent yn gweiddi ac yn dweud, “O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan.” Ac ni allent ei fwyta. Dywedodd yntau, “Dewch â blawd.” Ac wedi iddo'i daflu i'r crochan, dywedodd, “Rhannwch i'r dynion, iddynt fwyta.” Ac nid oedd dim niweidiol yn y crochan. Daeth gŵr o Baal-salisa â bara blaenffrwyth i ŵr Duw, yn cynnwys ugain torth haidd a thywysennau o ŷd newydd. Dywedodd, “Rhowch hwy i'r dynion i'w bwyta.” Ond dywedodd ei wasanaethwr, “Sut y gallaf rannu hyn rhwng cant o ddynion?” Ond atebodd, “Rho hwy i'r dynion i'w bwyta, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Bydd bwyta a gadael gweddill.” A gosododd y torthau o'u blaen, a chawsant fwyta a gadael gweddill, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
2 Brenhinoedd 4:38-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad ar y pryd. Roedd aelodau o’r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe’n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.” Roedd un o’r proffwydi wedi mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o’r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a’u torri’n fân ac yna eu taflu i’r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw. Yna dyma godi’r cawl i’w rannu i’r dynion. Ond wrth ei flasu dyma nhw’n gweiddi, “Broffwyd Duw, mae’r cawl yma’n wenwynig!” Allen nhw ddim ei fwyta. “Dewch â blawd i mi,” meddai Eliseus. Yna dyma fe’n taflu’r blawd i’r crochan, a dweud, “Iawn, gallwch ei rannu nawr, i’r dynion gael bwyta”. A doedd dim byd drwg yn y crochan. Dyma ddyn o Baal-shalisha yn dod â bara wedi’i wneud o ffrwyth cynta’r cynhaeaf i’r proffwyd – dau ddeg torth haidd a thywysennau o rawn aeddfed. Dyma Eliseus yn dweud, “Rhowch nhw i’r dynion gael bwyta.” Ond dyma’r un oedd yn gweini yn dweud, “Sut alla i fwydo cant o ddynion gyda hyn?” “Rho fe iddyn nhw,” meddai Eliseus, “achos mae’r ARGLWYDD wedi dweud y byddan nhw’n bwyta, a bydd peth dros ben.” Felly dyma fe’n rhoi’r bara iddyn nhw, ac roedd peth dros ben, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
2 Brenhinoedd 4:38-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi. Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt. Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr DUW, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta. Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan. A daeth gŵr o Baal-salisa, ac a ddug i ŵr DUW o fara blaenffrwyth, ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont. A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill. Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr ARGLWYDD.