2 Brenhinoedd 4:1-4
2 Brenhinoedd 4:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma wraig un oedd yn aelod o’r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i’n un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti’n gwybod, roedd e’n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu’r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.” Dyma Eliseus yn ateb, “Be alla i wneud? Dwed wrtho i, be sydd gen ti’n y tŷ?” “Does gen i ddim byd ond jar bach o olew, syr,” meddai. Yna dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion. Yna dos i’r tŷ gyda dy feibion, a chau’r drws tu ôl i ti. Tywallt olew i bob un llestr a rhoi’r rhai llawn ar un ochr.”
2 Brenhinoedd 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Apeliodd gwraig un o'r proffwydi at Eliseus a dweud, “Bu farw dy was, fy ngŵr, ac yr oedd yn ddyn duwiol, fel y gwyddost; ac y mae'r echwynnwr wedi dod i gymryd fy nau blentyn yn gaethion iddo.” Dywedodd Eliseus wrthi, “Beth a gaf ei wneud i ti? Dywed wrthyf beth sydd gennyt yn dy dŷ.” Atebodd hithau, “Nid oes gan dy lawforwyn ddim yn y tŷ ond ystenaid o olew.” Dywedodd Eliseus, “Dos a benthyg llestri gan dy holl gymdogion yn y stryd; paid â bod yn brin o lestri gweigion. Yna dos i mewn a chau'r drws arnat ti a'th feibion, a thywallt yr olew i'r holl lestri hynny, a gosod pob un llawn o'r neilltu.”
2 Brenhinoedd 4:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr ARGLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo. Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew. Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig. A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn.