Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 25:1-21

2 Brenhinoedd 25:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â’i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o’r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw’n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. Buon nhw’n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin). Erbyn y nawfed diwrnod o’r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i’w fwyta. Dyma’r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o’r ddinas ganol nos drwy’r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw’n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen. (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu’r ddinas.) Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma’i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. Dyma nhw’n mynd â’r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla. Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn, dyma nhw’n tynnu llygaid Sedeceia allan a’i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e’n gaeth i Babilon. Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o’r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) Dyma fe’n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a’r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. Wedyn dyma fyddin Babilon, oedd gyda’r capten, yn bwrw’r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr. A dyma Nebwsaradan yn mynd â’r bobl oedd wedi’u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. Ond gadawodd rai o’r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl. Wedyn, dyma’r Babiloniaid yn malu’r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a’r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‘Y Môr’. A dyma nhw’n cario’r metel yn ôl i Babilon. Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a’r dysglau – popeth oedd wedi’i wneud o aur pur neu arian. Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a’r trolïau oedd Solomon wedi’u gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i’w bwyso. Roedd y pileri yn bron naw metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi’i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath. Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. Wedyn o’r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o’r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o’i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. Aeth Nebwsaradan, capten y gwarchodlu, â nhw at frenin Babilon i Ribla, a dyma’r brenin yn eu curo nhw a’u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o’u tir.

2 Brenhinoedd 25:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar y degfed dydd o'r degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon gyda'i holl fyddin yn erbyn Jerwsalem, a gwersyllu yno, a chodi gwrthglawdd o'i chwmpas. Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Sedeceia. Ar y nawfed dydd o'r pedwerydd mis, pan oedd newyn trwm yn y ddinas a phobl y wlad heb fwyd, bylchwyd mur y ddinas. A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hyn, ffodd gyda'i holl filwyr allan o'r ddinas liw nos, drwy'r porth rhwng y ddau fur sydd wrth ardd y brenin; ac er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas, ffodd y brenin i gyfeiriad yr Araba. Ond erlidiodd byddin y Caldeaid ar ôl y brenin a'i oddiweddyd yn rhosydd Jericho, ac yr oedd ei filwyr i gyd ar chwâl. Felly daliwyd y brenin a'i ddwyn yn ôl at frenin Babilon i Ribla, a rhoi dedfryd arno. Lladdasant feibion Sedeceia o flaen ei lygaid, ac yna tynnu allan ei lygaid a'i roi mewn cadwynau a'i ddwyn i Fabilon. Ar y seithfed dydd o'r pumed mis yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar brenin Babilon, daeth Nebusaradan capten y gwarchodlu, swyddog brenin Babilon, i Jerwsalem. Rhoddodd dŷ'r ARGLWYDD a phalas y brenin ar dân, a llosgi hefyd bob tŷ o faint yn Jerwsalem. Drylliwyd y mur o amgylch Jerwsalem gan holl fyddin y Caldeaid a oedd gyda chapten y gwarchodlu. Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, y gweddill o'r bobl a adawyd yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi gwrthgilio at frenin Babilon, a gweddill y crefftwyr. Gadawodd capten y gwarchodlu rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr. Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn y deml, a'r trolïau a'r môr pres oedd yn y deml, a mynd â'r pres i Fabilon, a chymryd y crochanau a'r rhawiau a'r saltringau a'r llwyau a'r offer pres i gyd a ddefnyddid yn y gwasanaethau. Ond cymerodd capten y gwarchodlu feddiant o'r padellau tân a'r cawgiau oedd o aur ac arian pur. Ac am y ddwy golofn bres a'r môr a'r trolïau a wnaeth Solomon i dŷ'r ARGLWYDD, nid oedd yn bosibl pwyso'r pres yn yr offer hyn. Deunaw cufydd oedd uchder y naill golofn, a'r cnap pres arni yn dri chufydd o uchder, a rhwydwaith o bomgranadau o gwmpas y cnap, a'r cwbl o bres; ac yr oedd yr ail golofn a'i rhwydwaith yr un fath. Cymerodd capten y gwarchodlu Seraia yr archoffeiriad a Seffaneia yr ail offeiriad a thri cheidwad y drws; a chymerodd o'r ddinas swyddog a ofalai am y gwŷr rhyfel, pump o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ysgrifennydd pennaeth y fyddin a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o bobl y wlad oedd yn parhau yn y ddinas. Aeth Nebusaradan capten y gwarchodlu â'r rhai hyn at frenin Babilon i Ribla. Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda allan o'i gwlad ei hun.

2 Brenhinoedd 25:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi. A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad. A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos. A llu’r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a’i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a’i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho. Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef. Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a’i dygasant ef i Babilon. Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o’r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon, y daeth Nebusaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem. Ac efe a losgodd dŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân. A holl lu’r Caldeaid, y rhai oedd gyda’r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch. A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa. Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr. Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon. Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r saltringau, y llwyau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt, a ddygasant hwy ymaith. Y pedyll tân hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith. Y ddwy golofn, yr un môr, a’r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn. Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd arni; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, â phlethwaith. A’r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffaneia, yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws. Ac o’r ddinas efe a gymerth ystafellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a phumwr o’r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas. A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a’u dug at frenin Babilon, i Ribla. A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun.