2 Brenhinoedd 24:10-17
2 Brenhinoedd 24:10-17 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae ar Jerwsalem. Tra oedden nhw’n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad. A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda’i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor. Dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau’r deml i gyd hefyd, a thrysorau’r palas, a malu’r holl lestri aur roedd y Brenin Solomon wedi’u gwneud i’r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio. A dyma fe’n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a’r milwyr dewr, y crefftwyr a’r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd. Aeth â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, gyda’i fam a’i wragedd, swyddogion y palas a phobl fawr y wlad i gyd. Aeth â’r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a’r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd. Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.
2 Brenhinoedd 24:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr adeg honno daeth gweision Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gosod gwarchae ar y ddinas. Yna, tra oedd ei weision yn gwarchae arni, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y ddinas, ac aeth Jehoiachin brenin Jwda allan gyda'i fam a'i weision a'i swyddogion a'i weinyddwyr at frenin Babilon. Cymerodd brenin Babilon ef yn garcharor yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, a chludodd holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin oddi yno, a dryllio'r holl gelfi aur a wnaeth Solomon brenin Israel yn nheml yr ARGLWYDD, fel y rhagddywedodd yr ARGLWYDD. Caethgludodd ddeng mil o Jerwsalem, yr holl dywysogion a'r gwŷr cefnog, a phob crefftwr a gof hefyd, heb adael neb ond y tlotaf o bobl y wlad. Aeth â Jehoiachin i Fabilon, a hefyd dwyn yn gaeth o Jerwsalem i Fabilon ei fam a'i wragedd a'i weinyddwyr a phendefigion y wlad. Dygodd brenin Babilon yn gaeth i Fabilon saith mil o wŷr cefnog a mil o grefftwyr a gofaint, y cwbl yn wŷr glew yn medru rhyfela. Gwnaeth brenin Babilon Mataneia ewythr Jehoiachin yn frenin yn ei le, a newid ei enw i Sedeceia.
2 Brenhinoedd 24:10-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchaewyd ar y ddinas. A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a’i weision ef a warchaeasant arni hi. A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon, efe, a’i fam, a’i weision, a’i dywysogion, a’i ystafellyddion: a brenin Babilon a’i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad. Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nheml yr ARGLWYDD, fel y llefarasai yr ARGLWYDD. Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem, yr holl dywysogion hefyd, a’r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof: ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno. Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon, a mam y brenin, a gwragedd y brenin, a’i ystafellyddion, a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon. A’r holl wŷr nerthol, sef saith mil; ac o seiri a gofaint, mil, y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr: hwynt-hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon. A brenin Babilon a osododd Mataneia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef, ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia.