2 Brenhinoedd 19:15-19
2 Brenhinoedd 19:15-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Heseceia’n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, sy’n eistedd ar dy orsedd uwchben y cerwbiaid. Ti sydd Dduw – yr unig un – dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu’r bydysawd a’r ddaear. O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid, ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy’n enllibio’r Duw byw! ARGLWYDD, mae’n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio’r bobloedd i gyd, a’u tiroedd, ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi’u cerfio gan bobl, i’w haddoli. Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, plîs achub ni o’i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy’r ARGLWYDD, yr unig Dduw go iawn.”
2 Brenhinoedd 19:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“O ARGLWYDD Dduw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; ti a wnaeth y nefoedd a'r ddaear. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw. O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl. Gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw. Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r cenhedloedd a'u gwledydd, a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, o goed a charreg. Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw.”
2 Brenhinoedd 19:15-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Heseceia a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd DDUW, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y DUW byw. Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir, A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. Yn awr gan hynny, O ARGLWYDD ein DUW ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, tydi yn unig.