2 Brenhinoedd 13:10-21
2 Brenhinoedd 13:10-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Joas wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Jehoas fab Jehoachas yn frenin ar Israel. Bu’n frenin yn Samaria am un deg chwech o flynyddoedd. Gwnaeth yntau hefyd bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi’u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd e’n byw yr un fath. Mae gweddill hanes Jehoas – y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a’i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda – i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma’i fab, Jeroboam, yn eistedd ar yr orsedd yn ei le. Pan oedd Eliseus yn sâl ac ar ei wely angau aeth Jehoas, brenin Israel, i’w weld. Dyma Jehoas yn torri i lawr i grio o’i flaen a dweud, “Fy nhad, fy nhad! Ti ydy arfau a byddin Israel!” Meddai Eliseus wrtho, “Tyrd â dy fwa a dy saethau yma.” A dyma fe’n gwneud hynny. Wedyn dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Gafael yn y bwa.” Yna dyma Eliseus yn rhoi ei ddwylo ar ddwylo’r brenin. Wedyn dyma fe’n dweud wrtho, “Agor y ffenest sy’n wynebu’r dwyrain.” Dyma fe’n agor y ffenest. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Saetha!” A dyma fe’n saethu. “Mae’r saeth yna’n symbol o fuddugoliaeth yr ARGLWYDD. Saeth buddugoliaeth dros Syria. Byddi di’n ymosod ar Syria yn Affec ac yn ei difa nhw’n llwyr.” Yna dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Cymer y saethau, a tharo’r llawr gyda nhw.” Felly dyma’r brenin yn gafael yn y saethau a tharo’r llawr dair gwaith, ac yna stopio. Roedd y proffwyd yn flin gydag e. “Dylet ti fod wedi taro’r llawr bump neu chwe gwaith! Byddai hynny’n dangos dy fod yn mynd i ddinistrio Syria’n llwyr. Ond nawr dim ond tair gwaith fyddi di’n eu curo nhw.” Bu farw Eliseus a chafodd ei gladdu. Roedd criwiau o ddynion o Moab yn arfer ymosod ar y wlad bob gwanwyn. Un tro digwyddodd hynny pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu. Dyma’r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o’r criwiau yna o Moab yn dod, felly dyma nhw’n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.
2 Brenhinoedd 13:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Jehoas brenin Jwda y daeth Joas fab Jehoahas yn frenin ar Israel yn Samaria am un mlynedd ar bymtheg. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ni throdd oddi wrth holl bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu, ond parhaodd ynddynt. Am weddill hanes Joas a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth frwydro yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel? Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; yna daeth Jeroboam i'w orsedd. Pan oedd Eliseus yn glaf o'i glefyd olaf, daeth Joas brenin Israel i ymweld ag ef, ac wylo yn ei ŵydd a dweud, “Fy nhad, fy nhad, cerbydau a marchogion Israel.” Dywedodd Eliseus wrtho, “Cymer fwa a saethau,” a gwnaeth yntau hynny. Yna meddai wrth frenin Israel, “Cydia yn y bwa”; gwnaeth yntau, a gosododd Eliseus ei ddwylo ar ddwylo'r brenin. Yna dywedodd, “Agor y ffenestr tua'r dwyrain.” Agorodd hi, a dywedodd Eliseus, “Saetha.” A phan oedd yn saethu, dywedodd, “Saeth buddugoliaeth i'r ARGLWYDD, saeth buddugoliaeth dros Syria! Byddi'n taro'r Syriaid yn Affec ac yn eu difa.” Dywedodd wedyn, “Cymer y saethau,” a chymerodd yntau hwy. Yna dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Taro hwy ar y ddaear.” Trawodd yntau deirgwaith ac yna peidio. Digiodd gŵr Duw wrtho a dweud, “Pe bait wedi taro pump neu chwech o weithiau, yna byddit yn taro Syria yn Affec nes ei difa; ond yn awr, teirgwaith yn unig y byddi'n taro Syria.” Wedi hyn bu Eliseus farw, a chladdwyd ef. Bob blwyddyn byddai minteioedd o Moab yn arfer dod ar draws y wlad. Un tro, yn ystod angladd rhyw ddyn, gwelwyd mintai'n dod, a bwriwyd y dyn i fedd Eliseus; ond cyn gynted ag y cyffyrddodd ag esgyrn Eliseus, daeth yn fyw a chodi ar ei draed.
2 Brenhinoedd 13:10-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt. A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel. Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau. Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin. Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua’r dwyrain. Yntau a’i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymwared yr ARGLWYDD, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt. Hefyd efe a ddywedodd, Cymer y saethau. Ac efe a’u cymerodd. Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Taro y ddaear. Ac efe a drawodd dair gwaith, ac a beidiodd. A gŵr DUW a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria. Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno. A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.