2 Ioan 1:6-9
2 Ioan 1:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ystyr cariad ydy ein bod ni’n byw fel mae Duw’n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o’r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw. Mae llawer o rai sy’n twyllo wedi’n gadael ni a mynd allan i’r byd. Pobl ydyn nhw sy’n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a’i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia! Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli’r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn. Mae’r rhai sy’n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw. Ond mae gan y rhai sy’n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda’r Tad a’r Mab.
2 Ioan 1:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn ôl ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad. Oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i'r byd, y rhai nad ydynt yn cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd; dyma'r twyllwr a'r Anghrist. Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn. Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo.
2 Ioan 1:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo. Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist. Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo.