2 Ioan 1:5-6
2 Ioan 1:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yn awr yr wyf yn erfyn arnat, arglwyddes, ond nid fel un yn ysgrifennu iti orchymyn newydd; gorchymyn a oedd gennym o'r dechrau ydyw, sef ein bod i garu ein gilydd. A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn ôl ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad.
2 Ioan 1:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i’n apelio atoch chi i gofio’r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o’r dechrau, sef ein bod i garu’n gilydd. Ystyr cariad ydy ein bod ni’n byw fel mae Duw’n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o’r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw.
2 Ioan 1:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd. A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo.