2 Ioan 1:1-6
2 Ioan 1:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Ioan yr arweinydd, At yr eglwys – gwraig fonheddig sydd wedi’i dewis gan Dduw. Ac at ei phlant, sef chi sy’n credu, y rhai dw i’n eu caru go iawn. A dim fi ydy’r unig un. Mae pawb sy’n gwybod y gwir yn eich caru chi, am fod y gwir yn aros ynon ni, a bydd gyda ni am byth. Bydd haelioni rhyfeddol, a thrugaredd a heddwch dwfn Duw y Tad, a Iesu Grist ei Fab, yn aros gyda ni sy’n byw bywyd o gariad ac sy’n ffyddlon i’r gwir. Rôn i wrth fy modd o glywed fod rhai ohonoch chi’n byw felly – yn ffyddlon i’r gwir, fel mae’r Tad wedi gorchymyn i ni. Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i’n apelio atoch chi i gofio’r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o’r dechrau, sef ein bod i garu’n gilydd. Ystyr cariad ydy ein bod ni’n byw fel mae Duw’n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o’r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw.
2 Ioan 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr henuriad at yr arglwyddes etholedig a'i phlant. Yr wyf fi, ac nid myfi yn unig, ond pawb sydd wedi dod i wybod y gwirionedd, yn eich caru yn y gwirionedd, er mwyn y gwirionedd sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni am byth. Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. Bu'n llawenydd mawr i mi gael rhai o'th blant di yn rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn gan y Tad. Ac yn awr yr wyf yn erfyn arnat, arglwyddes, ond nid fel un yn ysgrifennu iti orchymyn newydd; gorchymyn a oedd gennym o'r dechrau ydyw, sef ein bod i garu ein gilydd. A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn ôl ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad.
2 Ioan 1:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd; Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd. Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad. Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd. A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo.