2 Corinthiaid 9:8-11
2 Corinthiaid 9:8-11 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae Duw’n gallu rhoi mwy na digon o bethau’n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser. Fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae’r duwiol yn rhoi yn hael i’r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.” Duw sy’n rhoi’r had i’r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‘had’ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo. Bydd yn eich gwneud chi’n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni’n mynd â’ch rhodd chi i Jerwsalem.
2 Corinthiaid 9:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion, y mae ei haelioni yn para am byth.” Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu. Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw.
2 Corinthiaid 9:8-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda: (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd. A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;) Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.