2 Corinthiaid 9:6-15
2 Corinthiaid 9:6-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi’n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi’n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr. Dylai pob un ohonoch chi roi o’i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw’n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi. Mae Duw’n gallu rhoi mwy na digon o bethau’n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser. Fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae’r duwiol yn rhoi yn hael i’r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.” Duw sy’n rhoi’r had i’r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‘had’ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo. Bydd yn eich gwneud chi’n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni’n mynd â’ch rhodd chi i Jerwsalem. Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi’n ei wneud – mae’n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw. Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi’n ufudd i’r newyddion da dych wedi’i gredu am y Meseia. Byddan nhw’n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi’ch galluogi chi i fod mor hael. A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau!
2 Corinthiaid 9:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael. Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu. Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion, y mae ei haelioni yn para am byth.” Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu. Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw. Oherwydd y mae'r cymorth a ddaw o'r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn diwallu anghenion y saint ond hefyd yn gorlifo mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw. Ar gyfrif y prawf sydd yn y cymorth hwn, byddant yn gogoneddu Duw am eich ufudd-dod i Efengyl Crist, yr Efengyl yr ydych yn ei chyffesu, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb. Byddant yn hiraethu amdanoch ac yn gweddïo ar eich rhan, oherwydd y gras rhagorol a roddodd Duw i chwi. Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy.
2 Corinthiaid 9:6-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth. Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda: (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd. A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;) Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw. Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw; Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb; A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch. Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.