2 Corinthiaid 9:6-10
2 Corinthiaid 9:6-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi’n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi’n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr. Dylai pob un ohonoch chi roi o’i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw’n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi. Mae Duw’n gallu rhoi mwy na digon o bethau’n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser. Fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae’r duwiol yn rhoi yn hael i’r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.” Duw sy’n rhoi’r had i’r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‘had’ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo.
2 Corinthiaid 9:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael. Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu. Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion, y mae ei haelioni yn para am byth.” Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu.
2 Corinthiaid 9:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth. Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda: (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd. A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)