2 Corinthiaid 9:11-15
2 Corinthiaid 9:11-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd yn eich gwneud chi’n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni’n mynd â’ch rhodd chi i Jerwsalem. Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi’n ei wneud – mae’n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw. Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi’n ufudd i’r newyddion da dych wedi’i gredu am y Meseia. Byddan nhw’n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi’ch galluogi chi i fod mor hael. A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau!
2 Corinthiaid 9:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw. Oherwydd y mae'r cymorth a ddaw o'r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn diwallu anghenion y saint ond hefyd yn gorlifo mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw. Ar gyfrif y prawf sydd yn y cymorth hwn, byddant yn gogoneddu Duw am eich ufudd-dod i Efengyl Crist, yr Efengyl yr ydych yn ei chyffesu, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb. Byddant yn hiraethu amdanoch ac yn gweddïo ar eich rhan, oherwydd y gras rhagorol a roddodd Duw i chwi. Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy.
2 Corinthiaid 9:11-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw. Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw; Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb; A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch. Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.