2 Corinthiaid 8:8-9
2 Corinthiaid 8:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dim rhoi gorchymyn i chi ydw i. Ond dw i yn defnyddio brwdfrydedd pobl eraill fel maen prawf i weld pa mor real ydy’ch cariad chi. A dych chi’n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e’n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! – a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw!
2 Corinthiaid 8:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid fel gorchymyn yr wyf yn dweud hyn, ond i brofi didwylledd eich cariad chwi trwy sôn am ymroddiad pobl eraill. Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau'n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.
2 Corinthiaid 8:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi. Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.