2 Corinthiaid 8:6-7
2 Corinthiaid 8:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
I hyn dw i’n dod: dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i’ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith. Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau – ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi’n hael hefyd.
2 Corinthiaid 8:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly yr ydym wedi gofyn i Titus orffen y gwaith grasusol hwn yn eich plith yn union fel y dechreuodd arno. Ym mhob peth yr ydych yn helaeth, yn eich ffydd a'ch ymadrodd a'ch gwybodaeth, yn eich ymroddiad llwyr ac yn y cariad a enynnwyd ynoch gan ein cariad ni. Felly hefyd byddwch yn helaeth yn y gorchwyl grasusol hwn.
2 Corinthiaid 8:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.