2 Corinthiaid 8:1-5
2 Corinthiaid 8:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi’i rhoi i’r eglwysi yn nhalaith Macedonia. Er eu bod nhw wedi bod drwy amser caled ofnadwy, roedd eu llawenydd nhw’n gorlifo yng nghanol tlodi eithafol. Buon nhw’n anhygoel o hael! Dw i’n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw’n gallu ei fforddio – do, a mwy! Nhw, ohonyn nhw’u hunain, oedd yn pledio’n daer arnon ni am gael y fraint o rannu yn y gwaith o helpu Cristnogion Jerwsalem. Dyma nhw’n gwneud llawer mwy nag oedden ni’n ei ddisgwyl, drwy roi eu hunain yn y lle cyntaf i’r Arglwydd, ac wedyn i ninnau hefyd. Dyna’n union oedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud!
2 Corinthiaid 8:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fe garem ichwi wybod, gyfeillion, am y gras a roddwyd gan Dduw yn yr eglwysi ym Macedonia. Er iddynt gael eu profi'n llym gan orthrymder, gorlifodd cyflawnder eu llawenydd a dyfnder eu tlodi yn gyfoeth o haelioni ynddynt. Yr wyf yn dyst iddynt roi yn ôl eu gallu, a'r tu hwnt i'w gallu, a hynny o'u gwirfodd eu hunain, gan ddeisyf arnom yn daer iawn am gael y fraint o gyfrannu tuag at y cymorth i'r saint— ac aethant ymhellach na dim y gobeithiais amdano, gan eu rhoi eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau yn ôl ewyllys Duw.
2 Corinthiaid 8:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw